Ein cyf/Our ref:

Eich cyf/Your ref:

 

Tŷ Cambria / Cambria House

29 Heol Casnewydd / 29 Newport Road

Caerdydd / Cardiff

CF24 0TP / CF24 0TP

 

E-bost/Email:

Emyr.roberts@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Emyr.roberts@naturalresourceswales.gov.uk

 

Ffôn/Phone:

0300 065 4444

 

coloured logog jpeg.jpg                                                           

 

 

 

 

 

Alun Ffred Jones AC

Cadeirydd Pwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd,

Cynulliad Cenedlaethol Cymru,

Bae Caerdydd,

Caerdydd

CF99 1NA

 

7 Awst 2015

 

Annwyl Alun,

 

CYFOETH NATURIOL CYMRU: CRAFFU BLYNYDDOL 2015

 

Diolch am eich llythyr dyddiedig 14 Gorffennaf.

 

Cyn rhoi sylw i'r pwyntiau o sylwedd yn eich llythyr, hoffwn gyfeirio at y broses graffu a fabwysiadwyd ar gyfer CNC: Craffu Blynyddol 2015.

 

Cyflwynwyd proses wahanol eleni a chynhaliwyd ‘ymgynghoriad cyhoeddus’ ynghylch CNC. Yn ymarferol roedd hyn yn golygu gofyn am farn pobl ar CNC, yn hytrach na'u barn ar ein perfformiad gwirioneddol.

 

Er nad ydym yn gwrthwynebu'r math hwn o ymarfer, er mwyn cael darlun cywir o sefydliad dylai fod wedi'i gydbwyso gan asesiad mwy gwrthrychol o'r hyn a gyflawnwyd mewn gwirionedd yn erbyn yr amcanion a'r targedau a bennwyd ar gyfer y corff. Rydym yn siomedig na chynhaliwyd unrhyw asesiad gwrthrychol o'n perfformiad - yn wir ni ofynnwyd yr un cwestiwn i'r Cadeirydd nac i minnau am ein perfformiad yn erbyn ein targedau yn ystod y sesiwn graffu ar 6 Mai 2015. Ymddengys i ni fod y broses graffu eleni yn seiliedig yn gyfan gwbl ar ganfyddiadau pobl eraill o CNC, yn hytrach na bod yn seiliedig ar ffeithiau.

 

O ran canfyddiadau, oherwydd y ffordd y cynhaliwyd yr ymgynghoriad, mae'n anochel mai'r rhai mwyaf beirniadol ymhlith ein rhanddeiliaid a ymatebodd iddo. Byddai ymgynghoriad mwy gwrthrychol wedi cael ei strwythuro o amgylch pob un o'n rhanddeiliaid, ac nid dim ond y rhai a ddewisodd ymateb. Byddem yn cyferbynnu dull gweithredu'r Pwyllgor â dull gweithredu'r Swyddfa Cyflawni Rheoleiddio Gwell (BDRO) a ymgynghorodd â rhanddeiliaid CNC yn ddiweddar hefyd, ond a wnaeth hynny mewn ffordd systematig ac a lwyddodd i lunio casgliadau a oedd yn seiliedig ar dystiolaeth dda yn dellio o amrywiaeth o safbwyntiau[1].

 

Ychwanegwyd at broblemau'r broses drwy'r ffordd y dewisodd y Pwyllgor ddethol y rhai i roi tystiolaeth, am fod cryn nifer ohonynt yn dod o sefydliadau anllywodraethol amgylcheddol yn hytrach na sefydliadau o sectorau eraill. Wedyn dewisodd y Pwyllgor ddethol sylwadau negyddol gan y rhai a roddodd dystiolaeth, yr oedd llawer ohonynt yn ddi-sail.

 

At ei gilydd, roedd y broses ymgynghori gyfan yn anghytbwys a detholus ac ni chredwn ei bod wedi rhoi darlun cywir o farn rhanddeiliaid ar CNC.

 

Credwn fod y broses graffu eleni yn ddiffygiol iawn ac mae hyn wedi peri rhwystredigaeth i'n rhanddeiliaid, ein Bwrdd a'n staff, yr oedd llawer ohonynt yn teimlo nad oeddent wedi cael cyfle i gyflwyno darlun mwy cytbwys o'n cynnydd.

 

Gyda pharch hoffem awgrymu i'r Pwyllgor y dylai'r broses graffu gael ei hadolygu ar gyfer blynyddoedd i ddod ac rydym yn barod iawn i ymgysylltu ag ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor os gofynnir i ni wneud hynny.

 

Efallai y byddwch am nodi y byddwn yn gwneud ein dadansoddiad ein hunain o'n dwy flynedd gyntaf, ac ymdrinnir â'r perfformiad ar gyfer 2014-15 yn ein Hadroddiad Blynyddol, a gyhoeddir yn fuan.

 

Er gwaethaf y diffygion yn y broses, roedd y sylwadau a gafwyd yn ddefnyddiol i ddeall barn rhai o'n rhanddeilaid ac rydym yn ymateb yn gadarnhaol i'r canfyddiadau hynny, fel y nodaf isod.

 

Gan droi at y pwyntiau yn eich llythyr:

 

Cyffredinol - nid ydym yn cytuno â sylw'r Pwyllgor nad ydym yn glir ynghylch ein diben. Rydym yn hollol glir ac amlygir hyn yn y nifer fawr o gynlluniau ac adroddiadau a luniwyd gennym. Rydym yn sefydliad unigryw â chylch gwaith newydd cyffrous ac mae'n cymryd amser i ymgorffori'r cysyniadau newydd hyn yn fewnol ac yn allanol. Nododd yr arolwg staff fod peth ansicrwydd ynghylch ein diben a'n hamcanion ymhlith lleiafrif o staff (22% a 25% yn y drefn honno) – rydym yn cydnabod hyn ac mae gennym raglen waith i esbonio ein dull o reoli adnoddau naturiol a'i ymgorffori, gyda'n staff a'n partneriaid allanol.

 

Cyfathrebu â staff Fel y dengys y trawsgrifiad, ni ddefnyddiodd yr Athro Matthews yr ymadrodd ‘rock bottom’.  Sylw'r Cadeirydd oedd bod yr arolwg wedi'i gynnal ar adeg pan oedd nifer fawr o staff yn teimlo'n ansicr oherwydd y broses newid. O ran rheolwyr llinell, fel yr esboniais yng nghyfarfod y Pwyllgor, rydym wedi ad-drefnu ein strwythur staffio yn gyfan gwbl er mwyn sicrhau eu bod yn gyson â'n diben a'n ffyrdd o weithio. Roedd hyn yn cynnwys siarad â staff a nodi opsiynau er mwyn i ni sicrhau'r strwythur gorau. Roedd yn bwysig gwneud hyn yn iawn a pheidio â rhuthro. Wedyn gwnaethom recriwtio'n fewnol i'r swyddi newydd mewn ffordd agored a thryloyw. Cwblhawyd y broses hon ym mis Mawrth/Ebrill eleni ac ar gyfer llawer o'n timau gweithredol nid oedd y strwythurau yn sefydlog ar adeg yr arolwg staff.

 

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi buddsoddi'n sylweddol yn ein systemau cyfathrebu mewnol ac rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd i wella - er enghraifft, rydym bellach yn defnyddio Yammer er mwyn galluogi staff i siarad â'i gilydd am eu gwaith, ac mae hyn yn llwyddiannus iawn.

 

Sgiliau nid oes unrhyw dystiolaeth bod y cynllun ymadael gwirfoddol wedi cael effaith anghymesur ar ein swyddogaethau o ran cadwraeth natur, pysgodfeydd a choedwigaeth. Cafodd ein rhaglenni Ymadael Gwirfoddol eu cynllunio a'u rhedeg yn ofalus er mwyn sicrhau ein bod yn ystyried ein hanghenion o ran sgiliau yn erbyn y staff a wnaeth gais i ymadael yn wirfoddol ac rydym yn hyderus ein bod wedi cadw digon o adnoddau mewn meysydd allweddol o fewn y sefydliad.

 

Cysondeb o ran cyngor a chymorth i gwsmeriaid– mae'r honiad bod llawer o gysylltiadau hirsefydlog wedi'u colli a'i bod yn anodd cysylltu â CNC yn achosi tipyn o benbleth i ni, am fod llawer o'n staff a'n timau wedi aros yn eu swyddi ers i ni gael ein breinio ac am fod y bobl/sefydliadau perthnasol yn cael eu hysbysu am unrhyw newidiadau mewn manylion cyswllt. Serch hynny, mae'r ffaith bod y mater hwn yn cael ei godi gan randdeiliaid yn destun pryder i ni. Byddwn yn cysylltu â'r rhanddeiliaid hynny sydd wedi ymateb ac yn sicrhau bod ganddynt gysylltiadau priodol o fewn CNC.

 

O ran materion sy'n ymwneud â physgodfeydd, rydym wedi ymgynghori'n eang ynghylch ein penderfyniad i gau deorfeydd, ond rydym yn derbyn y gellid gwella gweithgarwch cydgysylltu â grwpiau genweirio. Yn benodol, rydym yn cynnal gweithdai i drafod cynigion ar gyfer y dyfodol yr hydref hwn.

 

O ran cyngor cynllunio a chyngor ar drwyddedau, rydym yn ymrwymedig i ddarparu Gwasanaeth Cynllunio Cenedlaethol effeithiol ac effeithlon a gweithio gyda datblygwyr a'r gwneuthurwr penderfyniadau perthnasol (Awdurdod Cynllunio Lleol, Llywodraeth Cymru, Gweinidog neu'r Adran Ynni a Newid Hinsawdd) i roi tystiolaeth a chyngor er mwyn gwarchod a gwella amgylchedd ac adnoddau naturiol Cymru tra'n ei gwneud yn bosibl i waith datblygu fynd rhagddo yn y lle cywir, a chyfrannu at les economaidd a chymdeithasol Cymru.

 

Comisiynwyd papur y Bwrdd dyddiedig mis Rhagfyr 2013 y cyfeirir ato yn eich llythyr er mwyn mynd i'r afael â materion a nodwyd gan randdeiliaid a staff CNC yn seiliedig ar ddadansoddiad o brofiadau staff yn ystod chwe mis cyntaf bodolaeth CNC. Mae pethau wedi symud ymlaen gryn dipyn ers hynny, ac mae'n annheg iawn parhau i ailadrodd y sylwadau hyn er bod ein gwasanaeth cynllunio wedi datblygu cymaint, fel y nodir isod.

 

Cymeradwyodd y Bwrdd Amcanion Strategol CNC o ran Cynllunio a chytuno arnynt, a gwnaeth y rhain wedyn lywio ac ategu ein gwaith i sefydlu ein Gwasanaeth Cynllunio Cenedlaethol. Mae'r gwaith hwn wedi cynnwys:

·         Datblygu system TG ar gyfer rheoli achosion.

·         Newid sefydliadol a sefydlu timau cynllunio yng Ngweithrediadau Gogledd a Chanolbarth Cymru a Gweithrediadau De Cymru.

·         Sefydlu fframwaith llywodraethu cenedlaethol, sef Bwrdd y Gwasanaeth Cyngor Cynllunio Datblygu, er mwyn cydgysylltu gwasanaeth cenedlaethol a ddarperir o fewn timau lleol. Mae'r fframwaith hwn yn fodd i sicrhau darpariaeth a chyngor cyson ar lawr gwlad.

·         Darparu hyfforddiant i sicrhau bod gan bob aelod o staff sy'n ymwneud â darparu ein Gwasanaeth Cynllunio Cenedlaethol ddealltwriaeth gyffredin o'n hamcanion strategol o ran cynllunio, ein safonau gwasanaeth a'n blaenoriaethau.

·         Adolygu prosesau a chanllawiau gan gynnwys cyhoeddi ein safonau gwasanaeth, sef ‘Datganiad Cyflawni'r Gwasanaeth Cyngor Cynllunio Datblygu’, ac adolygu a chyhoeddi datganiad cliriach o flaenoriaethau ar gyfer ein cyfraniad at gynigion cynllunio, sef ‘CNC ac Ymgynghoriadau Cynllunio’. Nod yr adolygiad hwn o'n rhestr flaenoriaethu yw canolbwyntio ar y ceisiadau hynny a allai, yn ôl lleoliad, maint neu fath, gael yr effaith fwyaf sylweddol a'r rhai sy'n adlewyrchu ein cyfrifoldebau statudol. Nid yw hyn yn golygu na fyddwn yn rhoi cyngor i wneuthurwyr penderfyniadau ar faterion nas adlewyrchir yn y datganiad o flaenoriaethau. Byddwn yn parhau i roi tystiolaeth a chyngor mewn perthynas â Chynlluniau Datblygu Lleol (a Chynlluniau Datblygu Strategol maes o law) ac yn rhoi cyngor a chanllawiau sefydlog er mwyn helpu i lywio proses gwneud penderfyniadau'r awdurdodau lleol [e.e. ystlumod, tyrbinau gwynt unigol].

 

Rydym wrthi'n adolygu'r categorïau o ymatebion a ddefnyddir wrth ymateb i geisiadau cynllunio datblygu. Datblygwyd y categorïau hyn i ddechrau ar y cyd â swyddogion awdurdodau cynllunio lleol er mwyn sicrhau bod y cyngor a ddarperid, a'r bwriad, yn glir. Yn ein barn ni, deëllir y categorïau a ddefnyddir gennym yn dda. Fodd bynnag, yn seiliedig ar y dystiolaeth a gyflwynwyd i CNC ac yn sgil y dyletswyddau newydd a osodwyd ar CNC gan y Ddeddf Cynllunio (Cymru), rydym yn adolygu'r categorïau.

 

Rydym hefyd yn ymchwilio i opsiynau o ran y ffordd orau o asesu sut mae ein cyngor yn cael ei dderbyn, pa mor effeithiol ydyw a beth yw barn ein cwsmeriaid am ein cyngor a'n gwasanaeth fel y gellir eu gwella ymhellach.

 

Rydym yn cydnabod bod angen i ni wneud mwy o waith gyda'n rhanddeiliaid er mwyn cyfleu ein gwaith gwella gwasanaethau yn well a byddwn yn adfywio trefniadau cydgysylltu â'n cwsmeriaid. Rydym yn ystyried opsiynau ar gyfer cynnal arolwg o wasanaethau cwsmeriaid er mwyn cynnal asesiad meintiol ac ansoddol o'n gwasanaeth cynllunio.

 

Yn fwy cyffredinol o ran cydberthnasau â'n rhanddeiliaid, rydym yn ymdrechu o'r newydd i wella prosesau cyfathrebu â rhai ohonynt, yn sgil sylwadau'r Pwyllgor. Mae gennym gydberthnasau cryf a ffyniannus â'r rhan fwyaf o'n rhanddeiliaid eisoes.

 

Ein dull o ymdrin â'r trydydd sector a phrosesau grantiau– er nad ydym o reidrwydd yn cytuno â sylwadau ynghylch ein cydberthnasau â'r trydydd sector, byddwn yn atgyfnerthu ein deialog ag ef er mwyn sicrhau bod cyfathrebu a dealltwriaeth dda rhyngom.

 

Nid yw ein gwaith partneriaeth bob amser yn golygu rhoi cyfraniad ariannol yn unig oherwydd rydym yn aml yn gweithio ar brosiectau gyda phartneriaid lle mai ein hamser a'n harbenigedd yw ein prif gyfraniadau. Ar hyn o bryd rydym yn mynd ati i nodi'n glir yr hyn rydym yn ei olygu o ran yr iaith a ddefnyddiwn wrth ryngweithio â phartneriaid, partneriaethau, cwsmeriaid, rhanddeiliaid, ymgeiswyr am grantiau ac ati er mwyn bod yn gwbl eglur.

Yn benodol rydych yn cyfeirio at y llythyr gan Rachel Sharp, Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Cymru; rydym eisoes wedi cyfarfod ag Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Cymru er mwyn mynd i'r afael â'r pryderon hyn a byddwn yn trefnu rhagor o gyfarfodydd cydgysylltu.

 

Mae CNC yn ymrwymedig i roi cymorth priodol i ymgeiswyr mewn cylchoedd grantiau yn y dyfodol a hyderwn fod ein hymatebion manwl a nodir isod yn adlewyrchu ac yn dangos hyn yn ddigonol ac yn eich galluogi i'w brofi yn erbyn profiadau rhanddeiliaid yn y blynyddoedd sydd i ddod.

 

Lluniwyd y cynllun grant a lansiwyd fis Gorffennaf diwethaf gan wybod bod y terfynau amser yn dynn iawn. Ystyriwyd y risgiau a oedd yn gysylltiedig â gohirio unrhyw gynllun a phenderfynwyd bwrw ymlaen â chynllun tair blynedd, gyda chylch ariannu yn y flwyddyn gyntaf ar gyfer ceisiadau am brosiectau yn para hyd at dair blynedd a chylch dilynol yn yr ail flwyddyn ar gyfer ceisiadau am brosiectau yn para hyd at ddwy flynedd. Roedd hyn yn golygu y byddem yn gallu ystyried gwersi a ddysgwyd a gweithio ar fanylion unrhyw gynlluniau grant yn y dyfodol.

 

Materion Penodol – Canllawiau, Amserlenni ac Amseroldeb

Ar gyfer y cylch cyntaf, rydym yn cydnabod bod meysydd lle y gallem fod wedi rhoi canllawiau cliriach, bod y terfynau amser yn dynn iawn a bod nifer y ceisiadau a'r gwahanol gategorïau ohonynt wedi gwneud y cam asesu yn fwy beichus a hirfaith.

 

Gan ystyried ein profiad ac er mwyn cefnogi ymgeiswyr, mae ein canllawiau ar gyfer yr ail gylch wedi rhoi eglurder ynglŷn â'r hyn sy'n gymwys; mae'n cyfeirio at lefel y manylder sydd ei hangen mewn ceisiadau ac yn cynnwys y meini prawf sgorio er mwyn helpu sefydliadau i ganolbwyntio ar yr agweddau y dylai eu ceisiadau roi pwyslais arnynt. Rydym wedi llunio dogfen Cwestiynau Cyffredin, a byddwn yn ei diweddaru, er mwyn sicrhau bod ymgeiswyr yn cael cymaint o wybodaeth â phosibl. Rydym hefyd wedi llunio rhagor o ganllawiau ar ein gwefan, gan gynnwys dogfen sy'n ymdrin â chanllawiau ariannol, a rhagwelwn y bydd hyn yn lleihau gryn dipyn ar unrhyw gamddealltwriaeth ynglŷn â chostau.

Ar gyfer y cylch ariannu nesaf, rydym wedi nodi blaenoriaethau clir sy'n gysylltiedig â themâu penodol ac amserlen ar gyfer dychwelyd ceisiadau. Cyflwynwyd lansiad digidol er mwyn cynnwys pobl yn gyflymach ac yn gynharach yn y cylch a'i gwneud yn bosibl i waith ddechrau cyn gynted â phosibl. Rydym hefyd wedi cyfeirio darpar ymgeiswyr at swyddogion cyswllt allweddol fel y gallant roi cyngor iddynt ar eu cynigion penodol.

 

Materion Penodol – Cap o 7%

Lleisiwyd pryderon gennych ynghylch capio costau gorbenion ar 7% a bod hyn wedi gwneud prosiectau yn anghynaliadwy i sefydliadau anllywodraethol. Cyflwynwyd y cap o 7% yng nghyd-destun ariannu cystadleuol. Dyfynnodd llawer o sefydliadau orbenion uchel iawn ac, er mwyn sicrhau tegwch, roeddem o'r farn bod angen cael cyfradd gorbenion gyson ymhlith y sawl sy'n derbyn grantiau.  Ar adeg pan fo arian cyhoeddus yn brin, mae'n rhaid i bob cynnig gael ei ystyried o ran gwerth am arian. Mae ariannu un prosiect â gorbenion uchel yn golygu na chaiff prosiect arall ei ariannu. Mae'n briodol ariannu'r sefydliadau hynny sydd â gorbenion rhesymol ac sy'n cynnig y gwerth gorau am arian. 

 

Rydym yn cydnabod bod Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar ariannu sefydliadau anllywodraethol yn ddogfen gyfarwyddyd y dylem fod yn gweithio tuag at ei mabwysiadu a byddwn yn ystyried yr elfennau perthnasol hynny ar gyfer ein cynllun ariannu nesaf. Mae ein profiad o'r cap hyd yma, wrth weithio gydag ymgeiswyr i ailbroffilio eu ceisiadau, yw bod llawer o'r costau a gafodd eu categoreiddio'n orbenion i ddechrau yn gymwys fel costau prosiect. Nid oes yr un ymgeisydd wedi tynnu ei brosiect neu ei gynnig yn ôl o ganlyniad i'n dull gweithredu ac, er ein bod o'r farn ein bod wedi dysgu o'r profiad hwn, credwn ein bod wedi sicrhau gwell gwerth am arian drwy gyflwyno'r cap.

 

Ar gyfer y cylch nesaf rydym wedi datgan mai 7% yw terfyn uchaf gorbenion - felly ni ddylai fod angen i ymgeiswyr ddiwygio eu costau ar ôl iddynt gael eu cymeradwyo.  Fel yr esboniwyd uchod, rydym yn pennu'r cap hwn er mwyn sicrhau tryloywder, tegwch a'r ffordd orau o ddyrannu cyllideb grantiau gyfyngedig mor eang â phosibl.

 

Materion Penodol – Oedi, Taliadau Hwyr a Phrosesau Gweinyddol

Rydym yn derbyn nad oedd y broses y tro diwethaf mor syml ag y byddem wedi hoffi iddi fod. Rydym yn cymryd camau canlynol i fynd i'r afael â'r materion hyn:

 

 

O ran talu anfonebau grant yn hwyr, rydym o'r farn bod hyn yn ymwneud â chynlluniau grant blaenorol a bod amseriad yr hawliadau terfynol yn cyd-daro â chyflwyno system gyllid newydd CNC. Rydym yn cydnabod bod rhai achosion o oedi nas rhagwelwyd, ond ni ddylai hyn ddigwydd yn y dyfodol gan fod systemau a phrosesau bellach wedi'u sefydlu.

 

Rydych wedi gofyn i ni ystyried a yw ein prosesau gweinyddol o ran grantiau yn rhy feichus. Rydym wrthi'n cychwyn adolygiad sy'n cynnwys ein tîm gwella busnes er mwyn gweld a ellir gwneud gwelliannau a fyddai'n gwella'r broses. Roedd y cynlluniau grant a etifeddwyd gan y cyrff etifeddol yn destun archwiliad mewnol ac rydym yn ymgorffori argymhellion yr adroddiad mewn prosesau a roddir ar waith yn y dyfodol. Mae'r broses hon yn cael ei goruchwylio gan Bwyllgor Archwilio, Risg a Sicrwydd CNC.

 

Tryloywder Mae CNC yn ymateb i tua 7,000 o ymgynghoriadau cynllunio datblygu bob blwyddyn; oherwydd y nifer fawr o ymatebion i ymgynghoriadau a gyflwynir gennym nid ydym o'r farn, ar hyn o bryd, ei bod yn ymarferol cyhoeddi pob un o'n hymgynghoriadau cynllunio datblygu. Rydym ar ddeall bod y rhan fwyaf o'n hymatebion i ymgynghoriadau ynghylch ceisiadau cynllunio yn cael eu cyhoeddi ar wefannau awdurdodau cynllunio lleol ac y gellir gweld yr holl sylwadau ar brosiectau seilwaith cenedlaethol a gyflwynir gennym i'r Arolygiaeth Gynllunio ar ei gwefan.

 

Wrth ymateb i ymgynghoriad cynllunio, rydym yn nodi ein barn ar y cynllun dan sylw ac yn rhoi rhesymau er mwyn esbonio ein cyngor i'r awdurdod penderfynu/datblygwr. Felly, credwn fod y cyngor a roddwn i unrhyw ymgynghoriad cynllunio datblygu yn dryloyw.

 

Ni chredwn fod angen cyhoeddi'r holl ohebiaeth rhwng CNC a Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â thystiolaeth amgylcheddol, ond byddem yn fodlon derbyn unrhyw gais am ddarn penodol o dystiolaeth.

 

Unwaith eto mae eich llythyr yn cyfeirio at agosrwydd CNC at Lywodraeth Cymru. Credwn fy mod wedi esbonio ein safbwynt yn glir ar sawl achlysur i'r Pwyllgor.

 

Gan gyfeirio'n benodol at gynllun Cylchffordd Cymru, unwaith eto hoffwn nodi'n glir na wnaethom newid ein safbwynt na'n cyngor. Gwrthwynebodd CNC y cais cynllunio amlinellol ym mis Mehefin 2014 ac roeddem yn dal i'w wrthwynebu ar 10 Gorffennaf 2014 pan gymeradwyodd Pwyllgor llawn Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent y cynllun. Felly, rydym wedi lleisio ein pryderon ar yr effaith y gallai'r datblygiad hwn ei chael ar yr amgylchedd (sef colli cynefin gwerthfawr, effaith ar y dirwedd a cholli mawn) yn gyson.

 

Fodd bynnag, mae'r broses cynllunio Gwlad a Thref yn un ailadroddol. Yr hyn a newidiodd oedd faint o wybodaeth ac ymrwymiadau a gafodd CNC gan y datblygwr yn ystod y broses gynllunio yn union ar ôl penderfyniad yr Awdurdod Lleol. Roedd hyn yn cynnwys gwaith rheoli cynefin cydadferol, mesurau i liniaru effaith colli'r mawn a sicrhau bod dyluniad y cynllun hwn yn cael ei lywio gan y dirwedd. O ganlyniad i hyn, roeddem yn gallu ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru gan nodi nad oeddem o'r farn bod angen galw'r datblygiad i mewn. Mae'r ymrwymiadau hyn bellach wedi'n nodi mewn cytundeb cynllunio A106 diwygiedig. Rydym yn dal i fod yn hyderus bod y mesurau lliniaru y cytunwyd arnynt bellach yn ymdrin â'r pryderon a godwyd gennym o gofio bod gan y cynllun ganiatâd cynllunio amlinellol bellach.

 

Rydym wedi rhoi cyngor cadarn tebyg i Ymchwiliad Cyhoeddus yr Arolygiaeth Gynllunio i'r Ddeddf Tiroedd Comin a sefydlwyd er mwyn ystyried mater y tir comin a gollir o ganlyniad i'r cynllun a'r angen i ddarparu tir o werth cyfartal gerllaw yn lle'r tir comin hwn. Rydym yn aros am benderfyniad Gweinidogion Llywodraeth Cymru ynghylch yr Ymchwiliad hwn.

 

Achos Busnes - cynhaliwyd yr asesiad diweddaraf ym mis Ionawr 2015 ac fe'i crynhoir yn y tabl isod. Mae'r buddion a ddyfynnir yn rhai sy'n rhyddhau arian parod yn unig.

 

Mae'r proffil costau wedi newid gyda chostau pontio a thrawsnewid wedi'u rhannu dros amserlen hirach nag a fwriadwyd yn wreiddiol. Felly, mae hyn wedi effeithio ar y proffil Buddion.  Rydym yn bwriadu diweddaru'r rhagolwg Buddion yn ddiweddarach yr haf hwn. Rydym yn parhau i fod ar y trywydd iawn i gyflawni'r buddion a nodwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

Y cyrff a'n rhagflaenodd – roedd y sylwadau a wnaed gan yr Athro Matthews yng nghyfarfod y Pwyllgor wedi'u gwneud yn ddiffuant ac roeddent yn adlewyrchu safbwyntiau a fynegwyd iddo gan wahanol aelodau o staff o'r cyrff blaenorol. Nodwn lythyr Mr Thomas ac nid ydym am wneud unrhyw sylwadau pellach.

 

Rydym yn gwerthfawrogi'r sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor ynghylch lefelau uchel o broffesiynoldeb, gwybodaeth, arbenigedd ac ymrwymiadau a ddangosir gan staff CNC yn ddyddiol.

 

Hyderaf fod hyn yn ateb y pwyntiau a wnaed yn eich llythyr.

 

~AUT0000
Yn gywir,

Emyr Roberts

 

Prif Weithredwr, Cyfoeth Naturiol Cymru

Chief Executive, Natural Resources Wales

 

 

cc Carl Sargeant AC, Gweinidog Adnoddau Naturiol

 

 

 

 



[1] A Review of Natural Resources Wales against the Principles of Good Regulation, Mehefin 2015